top of page

ARDDANGOSFA CWRS SYLFAEN 
2020
ART FOUNDATION EXHIBITION

Mentro i dir newydd : Unchartered territory


Mae'r diploma mewn Astudiaethau Sylfaen (Celf a Dylunio) CBAC yn gwrs dwys un flwyddyn. a'i uchafbwynt yw'r Prosiect Mawr Terfynol sy'n gorffen gydag arddangosfa gyhoeddus o ansawdd uchel. 

Roedd yn ddiwrnod trist iawn pan orfodwyd y coleg i gau ei ddrysau ar 20 Mawrth, ar ddechrau'r Prosiect Mawr Terfynol, ac ymddangosai fod nifer o brosiectau cyffrous ac uchelgeisiol fyth yn mynd i weld golau dydd.

Gwnaed penderfyniad yn gyflym iawn y dylem geisio parhau, o bell. Roedd hyn yn dir newydd, ond gan ei bod yn rhan fawr o rôl yr artist i gofnodi'r gymdeithas rydym yn byw ynddi, teimlem fod hyn yn gyfle i fyfyrwyr fynegi'r profiad hwn mewn aseiniad a fyddai'n gadael ei ôl ar genedlaethau i ddod.   

Fel darlithwyr, cawsom wir ein hysbrydoli gan ymatebion y myfyrwyr, er gwaethaf y siom cychwynnol, maent wedi wynebu'r her gan ddangos uchelgais a dyfeisgarwch eithriadol. O fewn ychydig ddiwrnodau roeddent i gyd wedi sefydlu stiwdios cartref gan ddefnyddio pa wagle bynnag oedd ganddynt wrth law ac roeddent o ddifri yn gweithio o'u mewn. 

Rydym yn cyfarfod y myfyrwyr drwy alwadau fideo pob wythnos, a phob tro roeddem yn gadael y galwadau hyn roeddem yn teimlo wedi ein calonogi a'n cyffroi gan y gwaith oedd yn cael ei gynhyrchu.  

Isod cewch arddangosfa ar-lein o Brosiectau Terfynol y myfyrwyr.  Mae pob delwedd o fyfyriwr yn cysylltu gyda blogiau myfyrwyr unigol lle maent wedi curadu eu harddangosfa eu hunain.  Mae'r arddangosfeydd hyn wir yn adlewyrchu natur eang profiad sylfaen da gyda gwaith yn cael ei greu mewn ystod anferthol o ddisgyblaethau. Yn sicr ni wnaeth y cyfyngiadau gyfyngu ar eu creadigrwydd.  Mae yna hefyd orielau o luniau o weithgaredd coleg hyd at y cyfyngiadau, a gwagleoedd stiwdio myfyrwyr yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.  

Ar ran yr holl staff ar y cwrs hoffwn ddymuno'r gorau i'r holl fyfyrwyr wrth iddynt barhau a'u hastudiaethau, ledled y Deyrnas Unedig.  Llongyfarchiadau am arddangosfa ardderchog, amrywiol mewn amserau eithriadol, a diolch am ein hysbrydoli i gyd.


The WJEC diploma in foundation studies (Art Foundation course) is an intense one-year course, the highlight of which is the Final Major Project that culminates in a high-quality public exhibition.

It was a very sad day when the college was forced to close its doors on the 20th March, right at the beginning of the Final Major Project, and it seemed that many exciting and ambitious projects were never going to see the light of day.

A decision was quickly made that we should try to carry on, remotely, this was unchartered territory, but as a major part of an artist’s role is to document the society we live in, we felt this was an opportunity for students to express this experience in an assignment that will resonate its impact for generations to come.

As lecturers, we have been truly inspired by the student’s responses, despite initial disappointment they have embraced the situation, and showed extraordinary ambition and resourcefulness. Within a few days they had all set up home studios utilising whatever space they had to hand and were working seriously within them.

We met students via video calls every week, and every time we left these calls, we felt cheered and excited by the work that was being produced. 

Below you will find an online exhibition of the students’ Final Projects. Each student image links to individual student blogs within which they have curated their own exhibition. These exhibitions truly reflect the broad nature of a good foundation experience with work being produced in a huge range of disciplines, lockdown certainly didn’t inhibit their creativity. There are also image galleries of college activity up until lockdown, and student’s lockdown studio spaces. 

On behalf of all staff on the course I would like to wish the students all the best for their continued studies, all over the UK. Many congratulations on an excellent, varied, exhibition in extraordinary times, and thank you for inspiring us all.

Owein Prendergast

Home: About

ARDDANGOSFA DERFYNOL

FINAL

EXHIBITION


Mae pob teilsen yn ddolen i flogiau myfyrwyr unigol sydd yn cynnwys eu harddangosfa ar-lein wedi'i guradu'n bersonol.  Y ogystal â lluniau a gwybodaeth am eu gweithgaredd drwy gydol y cwrs. 

Each tile is a link to individual students blogs that contain their own personal curated online exhibition. As well as images and information about their activity throughout the course.

Home: Text
Home: Gallery

GWEITHGAREDD CWRS

COURSE ACTIVITY




Detholiad o luniau o weithgaredd cwrs 2019-20 hyd at y cyfyngiadau

A selection of images from various parts of the course in 2019-20 until lockdown

Home: Text
Home: Gallery

STIWDIOS Y CYFYNGIADAU

LOCKDOWN STUDIOS




Lluniau o stiwdios cartref a sefydlwyd gan fyfyrwyr yn eu cartrefi, ar ddechrau'r cyfyngiadau

Images of home studios set up by students at the beginning the lockdown, and final major project

Home: Text
Home: Gallery
Home: Gallery

CYSWLLT : CONTACT

Coleg Menai
Llys Y Wern
Ffordd y Llyn
Parc Menai

01248 370125 ext 4205

IMG_1229.jpeg
Home: Contact

Mae'r wefan yma'n cynnwys dolenni i wefannau allanol, blogiau y dysgwyr yn bennaf.  Safbwynt y myfyrwyr sy'n cael eu mynegi yn y blogiau yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu ein safbwynt ni, ac nid yw'n ardystiad ohonynt.  Mae'r dolenni yma wedi'u gwirio pan gyhoeddwyd y wefan yma.  Fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am wefannau allanol, ac mae'r cynnwys allan o'n dwylo, a gallent newid heb rybudd.


This site contains links to other Internet sites, notably student blogs.  The views expressed are those of the students, and do not necessarily reflect our views, and are not endorsements. These links were vetted when this website was published.  However, we are not responsible for these external websites, and the content is beyond our control, and can change without notice.  

Home: Text
bottom of page